Gall myfyrwyr a staff ar y campws neu gartref (DU yn unig) wylio neu recordio rhaglenni teledu a radio gan ddefnyddio BoB. Bydd angen y porwr gwe diweddaraf arnoch i gael mynediad i'r gwasanaeth. Defnyddiwch ein canllaw Ynglŷn â BoB i gael cymorth ar bob agwedd ar y gwasanaeth hwn.
Mewngofnodi yma:
Mae BoB yn wasanaeth gan Learning on Screen sy'n eich galluogi i recordio a gweld teledu a radio ar-lein, o dros 65 o sianelau am ddim gan gynnwys 13 o sianelau ieithoedd tramor.
PC, Mac, Llechen neu unrhyw ddyfais symudol sydd â chysylltiad rhyngrwyd. Sylwch mai dim ond rhaglenni sydd wedi eu hychwanegu ers mis Ionawr 2014 fydd yn cael eu gweld ar ddyfeisiau llaw Apple iOS.
Sylwer: Os ydych chi'n ddefnyddiwr newydd ac ar hyn o bryd yn cael problemau wrth dderbyn eich e-bost dilysu, defnyddiwch y botwm Ail-anfon (Resend) i gynhyrchu e-bost.
Gallwch e-bostio Angharad Evans [email protected], os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'r gwasanaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.