Animeiddio a gemau, Darlledu a newyddiaduraeth, dylunio, drama, dawns a pherfformiad, ffasiwn, ffilm ac effeithiau gweledol a graffeg symudol, cerddoriaeth a sain, ffotograffiaeth a chelf (Cyfadran y Diwydiannau Creadigol) a chyllid a chyfrifeg (Cyfadran Busnes a Chymdeithas).
Mae modd darganfod ein holl gasgliadau trwy FINDit.
Casgliad Stuart Morgan
Mae'r casgliad hwn o gatalogau arddangos o'r 1980au a'r 1990au, a roddwyd gan deulu'r awdur, yn cynnwys rhai wedi'u curadu gan yr awdur. Mae rhai o'i ysgrifau dethol hefyd yn rhan o'r casgliad.
Catalogau arddangosfeydd
Mae gan y Llyfrgell archebion sefydlog gan lawer o brif orielau'r DU ac mae'n derbyn y catalogau sy'n cyd-fynd â'r arddangosfeydd hyn yn fuan ar ôl y digwyddiad. Gellir dod o hyd i gatalogau ar FINDit, a gallwch chwilio yn ôl artist, oriel neu enw arddangosfa neu drwy'r casgliad.
Casgliad David Hurn
Mae Casgliad David Hurn yn archif o lyfrau a chyfnodolion sy'n arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfennol, o gasgliad personol y Ffotograffydd Magnwm.
Casgliad Raissa Page
Mae casgliad Raissa Page wedi cael ei roi gan ffotonewyddiadurwr a chyd-sylfaenydd y Format Photographers Collective.
Casgliad Ffotograffig Arolwg Casnewydd
Casgliad o ffotograffau du a gwyn yw Casgliad Ffotograffig Arolwg Casnewydd a dynnwyd gan fyfyrwyr ffotograffiaeth ddogfennol a oedd yn cofnodi Casnewydd yn y 1980au. Roedd y ffotograffau hyn yn sail i gyfres o 8 cyhoeddiad ar themâu amrywiol yn ymwneud â'r dref, a elwir hefyd yn Arolwg Casnewydd. Mae manylion y 2,200 o ddelweddau ar gael ar gatalog y llyfrgell ac mae'r lluniau ar gael i'w gweld er gwybodaeth yn unig.
Gwisg hanesyddol
Mae gennym gasgliad ffotograffig bach o wisgoedd hanesyddol.
Casgliad George Ewart Evans
Rhoddwyd y casgliad yn garedig gan y teulu Evans. Mae'n cynnwys nifer o deitlau sy'n archwilio adrodd straeon a hanes llafar. Mae rhagor o wybodaeth am y ganolfan ar gael yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans.
Casgliad Ffuglen Wyddonol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys dros 1500 o nofelau, llawer ohonynt gan awduron nodedig yn y genre ffuglen wyddonol.
Casgliad Rhaglen Theatr Henry Evans
Dyma gasgliad mawr o raglenni theatr a roddwyd gan deulu y diweddar Henry Evans. Mae'n dyddio o'r 1940au hyd at 2006..
Casgliad DVD
Mae'r Casgliadau DVD Oddi ar yr Awyr a Chyn-Recordiedig yn cynnwys detholiad o raglenni teledu, ffilmiau nodwedd a rhaglenni dogfen i gefnogi'r addysgu a'r dysgu ar y Campws.
Casgliadau CD Cerddoriaeth
Mae'r casgliad yn adlewyrchu'r rhan fwyaf o genres cerddorol o glasuron i indie, sgoriau ffilm i wrando hawdd a cherddoriaeth y byd i jazz
Casgliad CD effeithiau sain
Mae Casgliad Effeithiau Sain y BBC yn amrywio o ran pwynciau o trafnidiaeth, domestig, natur, dynol yn ogystal â synau a gynhyrchir yn electronig.