Accessibility banner dark blue

Datganiadau Hygyrchedd


Cynnwys a Systemau Trydydd Parti

Darperir nifer o wasanaethau trwy systemau trydydd parti nad ydym yn eu dylunio na'u rheoli'n uniongyrchol.  Disgrifir y rhain isod:


Rhestrau Darllen
Darperir gan ddatganiad hygyrchedd Talis Web.


FINDit - Chwiliad llyfrgell
Darperir gan Primo o Ex Libris. Mae Primo wedi'i ddylunio a'i ddatblygu'n barhaus i fodloni Lefel AA o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe W3C (WCAG 2.1). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn natganiad Hygyrchedd Ex Libris a'r Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd (pdf).


Canllawiau Pwnc
Darperir gan LibGuides o Springshare. Mae'r platfform LibGuides yn cydymffurfio â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Mae'r cynnwys rydym wedi'i ychwanegu at y platfform yn cwrdd â'r gofynion hygyrchedd ar gyfer cyrff sector cyhoeddus. Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd (pdf).


Gwasanaeth Sgwrsio’r Llyfrgell
Darperir gan LibAnswers o Springshare. Mae platfform LibAnswers yn cydymffurfio â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd (pdf).


Pure - Storfa Ymchwil
Darparwyd gan Elsiver. Maent yn gweithio tuag at gydymffurfio'n llawn â WCAG 2.1 AA erbyn Chwefror 2021. Polisi Hygyrchedd Elsevier.


Adnoddau digidol y llyfrgell

Darperir casgliadau ar-lein y Llyfrgell o e-gyfnodolion, e-lyfrau ac adnoddau eraill gan gyhoeddwyr a gwerthwyr trydydd parti a'u cynnal ar eu platfformau, nid ydym yn dylunio nac yn rheoli'n uniongyrchol.

Lle mae datganiadau unigol ar gael, darperir datganiadau unigol.