Os oes angen y wybodaeth ar y dudalen hon arnoch mewn fformat gwahanol, neu eisiau darganfod mwy am sut y gallwn helpu gyda'ch anghenion penodol, cysylltwch â ni.
Nod gwasanaeth llyfrgell PDC yw darparu'r mynediad ehangaf posibl i adnoddau dysgu ac addysgu a chael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n deillio o anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r tudalennau gwe hyn yn borth i wybodaeth am y gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarparwn i sicrhau'r hygyrchedd mwyaf posibl.
Benthyca adnoddau llyfrgell
Bydd angen eich cerdyn adnabod myfyriwr arnoch i fenthyg adnoddau yn y Llyfrgell.
Llyfrau, DVDs a CDs
Mae hawliau benthyca yr un fath ar gyfer myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda Gwasanaethau Anabledd y Brifysgol. Bydd llyfrau llyfrgell a deunyddiau eraill yn adnewyddu'n awtomatig oni bai bod defnyddiwr llyfrgell arall wedi gofyn amdanynt.
Cyfrifiaduron a meddalwedd hygyrch
Ym mhob llyfrgell yn PDC rydym yn cynnwys cyfrifiaduron gyda meddalwedd a lleoedd gwaith arbenigol sy'n ddesgiau uchder addasadwy.
Mae gan bob cyfrifiadur llyfrgell feddalwedd Inspiration (mapio meddwl) a TextHELP (Darllen ac Ysgrifennu).
Mae gan gyfrifiaduron a nodwyd feddalwedd Supernova (darllenydd sgrin).
Ar gyfer lleoliadau'r cyfrifiaduron hyn a desgiau uchder addasadwy, gweler ein cynlluniau llawr.
Benthyca drwy Ddirprwyaeth
Gall y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrchu'r deunydd drefnu bod benthyciwr sy’n cael ei ddirprwyo yn benthyg llyfrau ar eu rhan.
Cyrchu deunyddiau
Gwasanaeth cyrchu - Os oes angen help arnoch i gael llyfrau o'r silffoedd, gellir darparu cymorth gan Gynorthwywyr Llyfrgell crwydrol neu gofyn wrth y ddesg.
Recordwyr sain digidol a gliniaduron
Gellir benthyg yr adnoddau cyfryngau hyn am hyd at wythnos ac yna rhaid eu dychwelyd i'r llyfrgell i'w hadnewyddu/dychwelyd. Rhaid eu hadnewyddu/dychwelyd yn y/i’r llyfrgell y cawsant eu benthyg ohoni.
Gofodau Astudio
Mae yna ystod o ofodau astudio i weddu i holl anghenion myfyrwyr gan gynnwys astudio tawel, distaw ac astudio grŵp.
Benthyciadau drwy’r post
Mae'r gwasanaeth benthyciadau drwy’r post ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Anabledd. Gallwch ofyn am ystod o adnoddau trwy'r post.
Canllaw ar gyfer ymwybyddiaeth o fod yn fyddar
Mae'r llyfrgell wedi creu canllaw i adnoddau a gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â byddardod gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.