Mae Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr, academyddion ac ymchwilwyr PDC.
Dechrau Arni yn y Llyfrgell
Mae pob llyfrgell yn wahanol felly dewch i adnabod eich un chi.
P'un a ydych yn astudio ar-lein neu'n dod i'r campws bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddechrau defnyddio'r llyfrgell.
Rydym wedi ychwanegu’r canllawiau newydd canlynol ar gyfer 2023/2024.
Curaduron Amrywiaeth - Helpu i wella a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y llyfrgell.
Sut i ddefnyddio eLyfrau- Popeth sydd angen i chi ei wybod am ddefnyddio eLyfrau ym PDC
Canllaw myfyrwyr Coleg Partner - Canllaw i'n myfyrwyr sy'n astudio yn ein colegau partner ledled y wlad.
Mathau o aseiniad - Mae hwn yn esbonio'r mathau o aseiniadau y gellid gofyn i fyfyrwyr eu cyflwyno ym PDC.
Cyfeirnodi Harvard - Mae hwn yn ganllaw sylfaenol i arddull Harvard.
Canllaw Offer Cyfeirnodi- Bydd y canllaw hwn yn amlinellu'r prif offer a gefnogir ym PDC a'r offer rhad ac am ddim a ddefnyddir amlaf.
Myfyrwyr Parod ar gyfer y Dyfodol - Rhaglen digwyddiadau'r Llyfrgell
Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy.
Ymunwch â ni!
Llyfrgell Trefforest
Ardal Sgiliau Astudio Newydd ac Astudio Tawel yng Nghanolfan Dysgu Trefforest
Mae prosiect adnewyddu mawr i greu hyb Sgiliau Astudio newydd ac ardal Astudio Tawel yng Nghanolfan Dysgu Trefforest bellach wedi'i gwblhau.
Mae'r ardal Astudio Tawel wedi'i symud a'i huwchraddio i gynnwys desgiau gwaith a chadeiriau newydd sbon gyda phwyntiau pŵer ar gyfer gliniaduron a dyfeisiau eraill.
Mae loceri gliniaduron hunanwasanaeth ar bob campws. Maent ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Nid oes tâl am y gwasanaeth hwn.
Os oes gennych gwestiwn am y Llyfrgell, gwiriwch ein cwestiynau cyffredin.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano yma, defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio 24/7.
Neu galwch i mewn a siarad â ni.
Dewch draw i ymgyfarwyddo â'r adnodd gorau sydd gennych fynediad i'r Llyfrgell!
Cynhelir teithiau bob dydd rhwng 25 a 29 Medi ar bob campws o 12:30 - 13:00. Archebwch eich lle ar-lein.
Adnoddau Newydd
Mae Gwasanaethau Llyfrgell wedi buddsoddi mewn ystod o gronfeydd data ar-lein newydd.
Aerospace Research Central - AIAA - Papurau Cyfarfod (sy’n cael eu hadnabod hefyd fel Trafodion Cynadledda) - yn cynnwys tua 5,000 o bapurau bob blwyddyn o fforymau AIAA a chynadleddau a gefnogir, sy'n ymdrin â phob agwedd ar awyrofod
FT.com - FT.com (Financial Times) - Newyddion, dadansoddiad a sylwadau gan y Financial Times
Sage study skills (trial)- Develop the vital skills necessary to succeed in your academic and professional careers. Includes research skills, referencing, critical thinking, study strategies, data literacy and much more.
Historic Digimap - Casgliad Hanesyddol yn rhoi mapiau hanesyddol cyfoethog ar gyfer cyfnodau lluosog sy'n dyddio'n ôl i'r 1840.
Gall eich llyfrgellydd eich helpu i gael y gorau o'r llyfrgelloedd ar-lein a ffisegol.
Os ydych chi eisiau help i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau neu ddim ond eisiau gwybod mwy am wasanaethau llyfrgell gallwch wneud apwyntiad gyda'ch llyfrgellydd arbenigol.
Apwyntiadau i ddewis o’u plith:
Wyneb yn wyneb – ar y campws
Archebwch apwyntiad ar-leinneu e-bostiwch eich llyfrgellydd i drefnu dyddiad ac amser.
Dilynwch ni: @uswlibrary