Myfyrwyr rhan-amser, pellter a phartner

Myfyrwyr rhan-amser, a myfyrwyr o bell

Rydym yn cydnabod y gall myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr o bell wynebu heriau wrth wneud defnydd llawn o'r llyfrgell a'i chyfleusterau. Nod y ddewislen ar y dde yw amlygu gwasanaethau o gymorth a diddordeb penodol i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.





Myfyrwyr coleg partner

Croeso i'r tudalennau ar gyfer myfyrwyr yn ein colegau partner. Bydd Llyfrgell y Brifysgol o gymorth i chi yn ystod eich astudiaethau ond bydd eich coleg yn cwrdd â'r rhan fwyaf o'ch anghenion am wasanaethau llyfrgell. Dylai eich cyswllt cyntaf fod gyda staff y gwasanaethau hyn bob amser.


Ymuno â'r llyfrgell / cerdyn adnabod

Os oes angen cerdyn adnabod arnoch (sydd hefyd yn gerdyn llyfrgell i chi) ar ôl i chi gofrestru yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch Ardal Gynghori Campws agosaf i drefnu i gerdyn gael ei gynhyrchu

Ymsefydlu a chymorth

Dylid trefnu sesiynau ymsefydlu llyfrgell gan lyfrgell eich coleg a'ch tiwtor academaidd.

Cewch wybodaeth am lyfrgell eich coleg eich hun yn ogystal â sut i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol.

Cysylltwch â'r Llyfrgellydd yn eich coleg eich hun i gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer ymsefydlu a chymorth llyfrgell.