10-11-2022
Dywedoch chi, Gwrandawon ni!
Mewn ymateb i geisiadau gan staff a myfyrwyr, yn enwedig o fewn yr Ysgol Fusnes, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi prynu mynediad i Statista.
Mae Statista yn darparu'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol ar farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cwmpasu 1.9 miliwn o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ar 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd.
Gallwch hefyd gael mynediad i Ragolygon. Mae'r rhain yn rhoi gwybodaeth am feysydd penodol ac yn eich helpu i nodi'r potensial yn y meysydd hynny. Gall hyn gynnwys rhagolygon, mewnwelediadau marchnad manwl a dangosyddion perfformiad allweddol.
Rhowch gynnig ar Statista drosoch eich hun
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni.
Mwynhewch!
10-11-2022
26-09-2022
16-08-2022
27-07-2022
04-07-2022
25-05-2022
11-05-2022
15-03-2022
04-03-2022