04-03-2022
Yn Newydd i'r Llyfrgell? Mae yna lawer o ffyrdd y gallwn ni helpu.
Mae'r Llyfrgell wedi llunio canllaw dechrau arni i'ch arwain trwy hanfodion y llyfrgell a gwybodaeth am bob un o'n pedwar campws.
Llyfrau
Gall israddedigion ac ôl-raddedigion a addysgir fenthyca hyd at 25 o eitemau.
Mae gennym ni fideos 'Sut i' hefyd i'ch helpu i lywio'ch cyfrif, dod o hyd i lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion trwy FINDit, ein catalog llyfrgell.
Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi hefyd archebu llyfrau o gampysau eraill a'u casglu o'r llyfrgell prifysgol sydd agosaf atoch chi?
Adnoddau Ar-lein
Nid dim ond llyfrau sydd gennym yn ein llyfrgelloedd. Mae gennym hefyd gasgliadau ar-lein i chi eu defnyddio.
Gallwch chwilio ar draws ystod eang o adnoddau a dod o hyd i eitemau a gedwir yn y casgliadau hyn trwy ddefnyddio FINDit.
Rydym hefyd wedi creu set o ganllawiau Llyfrgell i'ch arwain gyda chymorth pwnc, cyfeirnodi, rhestrau darllen neu BoB - gwasanaeth radio a theledu ar alw.
Sgwrsio
Os oes angen i chi siarad â’r Llyfrgell mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni:
Defnyddiwch ein cyfleuster sgwrsio 24/7 i gael cymorth gyda gwasanaethau ac adnoddau llyfrgell.
Gallwch anfon e-bost atom.
Llyfrgellwyr Cyfadran
Gall eich Llyfrgellwyr Cyfadran eich helpu i:
Oriau Agor
Mae amseroedd agor llyfrgelloedd y campws yn amrywio felly gwiriwch cyn i chi deithio.
Cymorth Pellach
Angen cymorth ychwanegol gyda hygyrchedd i'n hadnoddau neu ein hadeiladau, gweler ein tudalen hygyrchedd.
Mae yna hefyd y Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio.
10-11-2022
26-09-2022
16-08-2022
27-07-2022
04-07-2022
25-05-2022
11-05-2022
15-03-2022
04-03-2022