Gofynnom i chi gymodi neu droi eich cefn ar y llyfrgell. Cawsom ein syfrdanu gan eich ymateb.Cawsom 303 llythyr.
Dyma rai o'r pethau rhyfeddol a ddywedasoch am Lyfrgell PDC:
Caerdydd

- Mae staff yn barod iawn eu cymorth pan ofynnir iddynt sut i ddefnyddio pethau.
- Hawdd iawn ei lywio i ddod o hyd i lyfr rydw i wedi'i weld ar FINDit.
- Lle gwych i ddod pan dwi'n teimlo fel fy mod yn methu canolbwyntio gartref.
- Gwerthfawrogi'r amrywiaeth o destunau corfforol ac ar-lein.
- Yn gyson wych ers 2018.
- Hoffi’r rhestrau darllen ar-lein.
Glyn-taf

- I fyfyriwr anabl fel fi, a oedd am ddatblygu a gwella fy hun ers cymaint o amser, y llyfrgell yw fy ffynnon wybodaeth fwy neu lai.
- Mae staff y llyfrgell mor garedig a chymwynasgar sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr.
- Lle distaw, tawel oddi cartref lle gallaf astudio.
- Rwyf wrth fy modd â'r holl erthyglau academaidd y mae gennyf fynediad iddynt.
Casnewydd

- Mae'r amgylchedd yn anhygoel - mae'n hyfryd cael llyfrgell fel hon.
- Caru'r llyfrgell ar-lein a'r sesiynau rhad ac am ddim a gynigir i fyfyrwyr i wella sgiliau.
- Mae'r staff yn anhygoel ac yn barod i helpu.
- Mae'n well gen i e-lyfrau gan fy mod yn anabl felly mae cael cymaint y gallaf gael mynediad hawdd atynt ar fy ngliniadur yn wych.
- hebddoch chi byddwn ar goll.
Trefforest

- Amgylchedd diogel ac ysgogol.
- Mae llyfrau wedi fy helpu yn fwy nag yr oeddwn yn ei feddwl dros fy nhair blynedd ac ni fyddai hynny byth wedi bod yn wir pe na bawn i wedi cael taith bersonol gan un o'r staff yn fy wythnos gyntaf.
- Am ddim i'w ddefnyddio a does dim rhaid talu am lyfrau.
- Mae staff y llyfrgell bob amser yn barod i helpu.
- Lle gwych i astudio'n heddychlon.
Rydym
yn ystyried sut i ymateb i'ch adborth a byddwn yn adrodd yn ôl i chi yn yr
wythnosau nesaf ar yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud am yr hyn yr ydych wedi'i
ddweud wrthym.