19-01-2022
Lansiad Llyfr: ‘Understanding Homicide’ gan Fiona Brookman, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru
Pryd: Dydd Llun, Ionawr 31, 16:00-17:00
Lleoliad: B001, Campws Trefforest, ac ar-lein
Yn agored i: Holl fyfyrwyr PDC, Israddedigion, Ôl-raddedigion/Ymchwilwyr Ôl-raddedig, Staff, Cyn-fyfyrwyr, Darpar Fyfyrwyr.
Cofrestru: Am ddim i fynychu - mae angen cofrestru
Gwybodaeth Cofrestru: Cofrestrwch ar Eventbrite i fynychu'r digwyddiad
Mae’r llyfr ar gael gan Sage Publishing neu yn y digwyddiad.
Sylwch y cedwir at fesurau cadw pellter cymdeithasol llym os byddwch yn mynychu'n bersonol.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi rhyddhau’r llyfr ‘Understanding Homicide’, (ail argraffiad) gan Fiona Brookman, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn y llyfr atyniadol a hygyrch hwn, mae Fiona yn tynnu ar sawl degawd o’i hymchwil ei hun ar ddynladdiad a thrais, gan gynnwys ymchwil ethnograffig ar ymchwilio i ddynladdiad yn y DU ac UDA a chyfweliadau â throseddwyr treisgar, er mwyn datrys nodweddion ac achosion dynladdiad, sut mae'r heddlu a gwyddonwyr fforensig yn ymchwilio iddo a sut y gellir ei atal.
Gan gyfuno dadansoddiad o Fynegai Dynladdiad y Swyddfa Gartref ag astudiaethau achos o ddynladdiadau a dadl ryngwladol a llenyddiaeth, bydd y gwerslyfr cynhwysfawr hwn yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n astudio dynladdiad, trais, ei ymchwiliad ac ymatebion iddo, yn ogystal ag ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn dynladdiad a thrais.
Yn y digwyddiad lansio llyfr anffurfiol hwn, a gynhelir gan José Lopez Blanco o Lyfrgell PDC, bydd yr Athro Brookman yn siarad yn fyr am rywfaint o’r ymchwil sy’n sail i’r llyfr ac yn trafod heriau a rhinweddau arsylwi ditectifs dynladdiad wrth eu gwaith ac o wneud ymchwil ethnograffig aml-safle.
Dilynir hyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb a chyfle i brynu ‘Understanding Homicide’ am bris gostyngol.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Lyfrgell PDC, Y Ganolfan Troseddeg, a Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi.
10-11-2022
26-09-2022
16-08-2022
27-07-2022
04-07-2022
25-05-2022
11-05-2022
15-03-2022
04-03-2022