Astudiwch yn well gyda'n cynllun Adduned Blwyddyn Newydd

Rhestr i'w gwneud 2023

Rhowch hwb i'ch astudiaethau a chychwyn 2023 gyda'n canllaw 3 phwynt Gwasanaethau Dysgu PDC.

1. Gall Gwasanaethau Llyfrgell helpu gydag ymchwil a darllen o amgylch pwnc.

Defnyddiwch FINDit - ein platfform darganfod llyfrgell - i ddarllen llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a mwy. Mae darllen o amgylch pwnc wrth ymchwilio iddo yn hanfodol i gael lefel ddyfnach o wybodaeth a hyder am eich pwnc.

Os mai peiriannau chwilio rhyngrwyd fel Google neu Bing yw eich hoff le ar gyfer ymchwilio, yna mae gennym un neu ddau o atebion:

  • Defnyddio dull SIFT i ddod yn fwy beirniadol a gwerthusol o wybodaeth ar y we.
  • Llawrlwytho estyniad nod tudalen o'n gwasanaeth Lean Library newydd sbon a chael gwybod am adnoddau ar-lein y gallwch eu cyrchu ar unwaith gyda'ch manylion mewngofnodi a'ch cyfrinair myfyriwr PDC.

Os yw dod o hyd i wybodaeth ac ymchwil yn frawychus. Neu os nad ydych chi'n siŵr pa gronfa ddata i'w defnyddio, yna trefnwch apwyntiad gyda’ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Rhagor o wybodaeth am y llyfrgell

2. Ysgrifennu, cynllunio a strwythuro gyda Sgiliau Astudio

Gall cael eich ymchwil, eich dadansoddiad a'ch canfyddiadau i lawr ar bapur fod yn frawychus i'r rhai sy’n anghyfarwydd â gwneud hynny. Mae Sgiliau Astudio yma i helpu! Mae ganddynt ystod eang o adnoddau hunangymorth ac maent yn darparu cymorth un i un a gweithdai grŵp: ar-lein ac yn bersonol.

Llyfrau sgiliau astudio yn y llyfrgell - rhestr darllen

3. Meddwl am y dyfodol gyda Gyrfaoedd

Mae gan Gyrfaoedd amrywiaeth o adnoddau i fagu hyder a phrofiad ar gyfer byd gwaith. Mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael ac mae adnoddau hunangymorth ar chwilio am swyddi a menter. I gael cyngor ac arweiniad manwl pellach,trefnwch apwyntiad.

Help gyda bywyd myfyriwr

Wrth gwrs, nid yw'n ymwneud ag astudio yn unig. Os ydych chi'n cael trafferth gyda bywyd mewn meysydd eraill, yna mae sawl gwasanaeth yn PDC sy'n cefnogi iechyd a lles myfyrwyr. Cysylltwch â'r Ardal Gynghori os nad ydych chi'n siŵr pa gymorth sydd ei angen arnoch chi.

#featured #Llyfrgell #newyddion #unilife-cymraeg