Blackboard Ally

BlackBoard-Ally-Logo

Dysgwch eich ffordd chi gydag ALLY

Ydych chi erioed wedi dod o hyd i gynnwys yn eich cwrs a oedd yn anodd ei ddarllen, neu yr ydych yn dymuno y byddai mewn fformat gwahanol? Blackboard ALLY yw'r ateb.


Mae’r offeryn fformatau amgen ALLY yn eich galluogi i drosi ffeiliau a lanlwythwyd i Blackboard gan eich darlithwyr i amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, gan gynnwys:

  • Tagged pdf – mae hwn yn pdf strwythuredig sy'n fwy defnyddiol i rai technoleg gynorthwyol.
  • HTML – ar gyfer gweld mewn porwyr gwe ac ar ddyfeisiau symudol.
  • EPub – ar gyfer darllen fel e-lyfr ar e-ddarllenwyr a dyfeisiau symudol.
  • Braille electronig – ar gyfer defnyddio ar arddangosiadau braille electronig sy'n gweithio gyda ffeiliau BRF.
  • Sain – ar gyfer gwrando ar adnodd. Gellir ei chwarae ar unrhyw ddyfeisiau sy'n gallu chwarae ffeiliau MP3.
  • Fersiwn wedi'i gyfieithu – cyfieithiad peirianyddol yw hwn o'r adnodd a ddarparwyd yn lle defnyddio Google Translate er enghraifft.

Gwell gennych ddarllen yn eich iaith gyntaf? Gall ALLY gyfieithu dogfennau cwrs i 30 o ieithoedd gwahanol.


Gallwch lawrlwytho eich hoff fformat unrhyw le y gwelwch yr eicon fformat amgen ALLY ar Blackboard - gwych ar gyfer dysgu eich ffordd chi wrth fynd.

Chwiliwch am yr eicon fformat amgen yn Blackboard.blackboard-ally-studen.width-300


Darganfyddwch fwy ar Unilearn.


#newyddion #uniife_cymraeg