13-09-2023
Os ydych chi'n newydd ac yn meddwl beth all y llyfrgell ei wneud i chi, yna darllenwch ymlaen.
Os yw'n well gennych gael gwybod yn bersonol, trefnwch le ar ein cyfres o ddigwyddiadau "Myfyrwyr sy’n Barod i'r Dyfodol" yn y Llyfrgell.
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnwys llyfrau astudio a chylchgronau cyfredol a pherthnasol. Gyda mannau dysgu rhagorol gyda chyfarpar da, gallwch ddewis astudio mewn distawrwydd neu mewn grwpiau.
Darganfyddwch fwy gyda'n canllaw Dechrau Arni neu trefnwch le ar un o'n teithiau llyfrgell a gynhelir rhwng 25 Medi a 6 Hydref.
Nid llyfrau yn unig sydd gennym yn ein llyfrgelloedd. Mae gennym hefyd gasgliadau ar-lein sydd ar gael i chi unrhyw bryd ac unrhyw le.
Chwiliwch ar draws ystod eang o adnoddau a dewch o hyd i eitemau a gedwir yn y casgliadau hyn trwy ddefnyddio FINDit.
Rydym hefyd wedi creu cyfres o ganllawiau llyfrgell i'ch helpu gyda chefnogaeth pwnc, cyfeirnodi, eLyfrau a rhestrau darllen.
Yn ystod y tymor, rydym ar agor tan yn hwyr, felly gwelwch ein horiau agor yma.
Gallwch hefyd ddefnyddio BOB: gwasanaeth radio a theledu ar-alw sy’n ffrydio miloedd o oriau o ddarllediadau Freeview dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Os oes angen i chi siarad â'r Llyfrgell, defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio sy’n ar gael 24/7.)
Neu e-bostiwch ni: [email protected]
Mae Llyfrgellwyr y Gyfadran yn darparu cymorth arbenigol ar yr adnoddau y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch ymchwil.
I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Llyfrgellydd eich Cyfadran.
Gall bod yn fyfyriwr newydd fod yn frawychus ac mae gan Brifysgol De Cymru amrywiaeth o wasanaethau cymorth i’ch helpu gan gynnwys Lles, Arian Myfyrwyr,Gyrfaoedd a Sgiliau Astudio.
Mae dolenni i ragor o wasanaethau ar waelod y dudalen hon.
13-09-2023
09-08-2023
25-05-2023
21-04-2023
12-04-2023
29-03-2023
07-03-2023
16-02-2023
23-01-2023