Rydym am i chi fwynhau defnyddio ein lleoedd er mwyn eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau a'r adnoddau a gynigiwn.
Helpwch ni i greu lle croesawgar, cyfforddus a diogel i ddiwallu eich anghenion dysgu a chymorth. Er mwyn helpu i gyflawni hyn gofynnwn i chi gadw at y canlynol:
- Parchu eich llyfrgell a'r adnoddau y mae'n eu cynnig.
- Bod yn ystyriol ac yn gwrtais ag eraill sy'n defnyddio'r lle hwn.
- Bod yn ymwybodol o sut y gellir defnyddio'r gwahanol leoedd yn yr adeilad.
- Clirio ar eich ôl, fel y gall eraill ddefnyddio'r gofod ar eich ôl.
- Gadael y llefydd nad ydych yn eu defnyddio, i ganiatáu i eraill eu defnyddio.
- Rydym am i chi deimlo'n gartrefol yma, ond fe’ch anogir i beidio cysgu.
- Mae staff y llyfrgell yma i'ch helpu chi, dylech eu trin â pharch.