Ymuno â'r Llyfrgell

Ymuno â'r llyfrgell

Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig

Gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd ddefnyddio'r llyfrgell y diwrnod ar ôl iddynt gofrestru, cyn belled â bod ganddynt gerdyn adnabod myfyriwr dilys. Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell hefyd. Rhaid i fyfyrwyr gael eu cardiau gyda nhw bob amser, gan na chaniateir benthyciadau llyfrgell a benthyciadau Cyfryngau hebddo.

Hawliau benthyciad: Myfyrwyr israddedig amser llawn a rhan-amser: 25. Yn ogystal ag uchafswm o 5 eitem o Lyfrgell Coleg Merthyr Tudful.

Myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir amser llawn a rhan- amser: 25. Yn ogystal ag uchafswm o 5 eitem o Lyfrgell Coleg Merthyr Tudful.

Staff
Mae'n ofynnol i staff cymorth ac academaidd lenwi ffurflen aelodaeth llyfrgell. Byddem hefyd yn annog yr holl staff academaidd newydd i gysylltu â llyfrgellydd eu cyfadrannau a all amlinellu gwasanaethau penodol sydd ar gael iddynt.

Hawliau benthyciad: 25. Hefyd, gellir benthyca uchafswm o 10 eitem o Lyfrgell Coleg Merthyr Tudful.

Myfyrwyr ymchwil
Rhaid i fyfyrwyr Ph.D. ac M.Phil. ddefnyddio eu cardiau adnabod myfyrwyr fel eu cerdyn Llyfrgell a'u rhif myfyriwr a chyfrinaid PDC ar gyfer mewngofnodi i FINDit. Bydd y Llyfrgell yn newid eich breintiau i un ymchwilydd.

Hawliau benthyciad: Myfyrwyr ôl-raddedig: 25. Hefyd, gellir benthyca uchafswm o 10 eitem o Lyfrgell Coleg Merthyr Tudful.


Aelodaeth allanol o'r llyfrgell

Gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio Llyfrgelloedd PDC at ddibenion cyfeirio a gallant ymuno â Llyfrgell PDC fel aelodau o'r gymuned.

Nid oes cronfeydd data electronig ar gael i'w defnyddio gan aelodau allanol oherwydd cyfyngiadau trwydded.

Mae dau gategori o aelodaeth allanol, y rhestrir eu manylion isod.

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cymryd aelodaeth allanol lenwi'r ffurflen gais.

Cysylltir â chi pan fydd eich cerdyn llyfrgell ar gael i'w gasglu.


Aelodaeth Cyn-fyfyrwyr a’r Gymuned

Gall cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol 18 oed neu hŷn ymuno â Llyfrgell PDC am ddim. Byddai hyn yn rhoi hawl ichi fenthyg 2 eitem o'r Llyfrgell. Nid yw aelodaeth yn cynnwys mynediad at adnoddau electronig na mynediad at Wi-Fi PDC. Cwblhewch ffurflen aelodaeth y Llyfrgell.

Nodyn: Nid oes hawl benthyciad aelodaeth allanol yn Llyfrgell Coleg Merthyr Tudful.


Staff a myfyrwyr prifysgolion eraill

Gall unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff o sefydliad arall sydd â statws Prifysgol, fynd i mewn i'r adeilad yn ystod oriau agor ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y tymor neu yn ystod y gwyliau. Bydd yn bosibl defnyddio'r Llyfrgell at ddibenion cyfeirio, ond ni chaniateir benthyca neu ddefnyddio adnoddau electronig.

Fodd bynnag, mae cynlluniau cydweithredol ar gael a allai alluogi benthyca o'n casgliadau.

  1. Mynediad i SCONUL. Cyfeiriwch at eich sefydliad eich hun i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn.
  2. Cynllun benthyca cyfatebol gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.