Sgiliau llyfrgell

Sgiliau Llyfrgell

Cymerwch gip ar ein canllaw sgiliau Llyfrgell a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch gyda thiwtorialau, canllawiau fideo a mwy.


Mae sesiynau sgiliau llyfrgell ar gael i bob myfyriwr ac yn PDC.


P'un a yw'n esbonio sut i fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael neu ddeall sut i ddod o hyd i lyfr ar y silff, gall staff y llyfrgell helpu. 


Gall llyfrgellwyr cyfadran drefnu gyda staff academaidd i ddarparu cefnogaeth o fewn y cwricwlwm yn yr amgylchedd dysgu cyfunol newydd. Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd am fanylion.

Canllaw Dechrau Arni ar gyfer y llyfrgell

P'un a ydych chi'n astudio ar-lein neu'n dod i'r campws bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddechrau defnyddio'r llyfrgell.

  • Os ydych yn newydd i Lyfrgell PDC, bydd ein canllaw Sgiliau llyfrgell yn eich helpu ac yn eich cefnogi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch gyda thiwtorialau, canllawiau fideo a mwy.
  • Cymorth yn yr ystafell ddosbarth – Anelir y sesiwn hon at fyfyrwyr sy'n newydd i'r Brifysgol. Rhagwelir y bydd yn cael ei chyflwyno i fyfyrwyr yn ystod tymor cyntaf eu cwrs. Y nod yw croesawu myfyrwyr newydd, eu cyflwyno i gyfleusterau ac adnoddau'r llyfrgell a sut i ddefnyddio Findit i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eu haseiniadau.
  • Canllawiau - Gweler ein canllawiau cyfeirio, canllawiau pwnc a chanllawiau 'Sut i ...' am fwy o wybodaeth.
  • Apwyntiadau un-i-un - ar gael gyda'ch llyfrgellydd cyfadran trwy ardal gynghori ar-lein.
  • Cymorth ystafell ddosbarth - Sesiwn fanwl yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer gwneud darn sylweddol o ymchwil unigol, fel traethawd hir.
  • Rydym yn darparu cymorth ar gyfer dysgu ac addysgu trwy ein gwasanaethau a'n cyfleusterau yn ein llyfrgelloedd campws.
  • Gall staff academaidd drefnu cyflwyniad / sesiwn gloywi llyfrgell gyda'u llyfrgellydd cyfadrannau i drafod gwasanaethau ac adnoddau yn PDC.
  • Gweler y canllaw llyfrgellam fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i ymchwilwyr ôl-raddedig.
  • Rydym yn rhoi cyngor pwnc i ymchwilwyr, yn datblygu sgiliau cymorth ac yn cynghori ar adnoddau.
  • Gall ymchwilwyr drefnu apwyntiad un-i-un gyda'u llyfrgellydd cyfadran i drafod gwasanaethau ac adnoddau Prifysgol De Cymru.
  • Gweler y canllaw llyfrgell am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i ymchwilwyr ôl-raddedig.

Gellir cynnig cymorth ystafell ddosbarth ychwanegol yn ogystal â’r sesiynau sgiliau llyfrgell un a dau a restrir uchod.

Gallwn weithio gyda staff academaidd i ddylunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau sgiliau llyfrgell yn seiliedig ar ddisgyblaeth a all fod yn seiliedig yn yr ystafell ddosbarth neu ar gael ar-lein.

Er enghraifft, rydym wedi darparu addysgu wyneb yn wyneb ar lên-ladrad neu ganfod a gwerthuso adnoddau, ar gais.