Cyrchu Talis Aspire
Y man cychwyn ar gyfer cyrchu Talis Aspire yw trwy ddolen rhestr y Llyfrgell.
Cymorth Rhestr Ddarllen
Gallwch gynnwys yr holl adnoddau rydych am i'ch myfyrwyr eu defnyddio mewn rhestr ddarllen ar-lein. Gellir creu rhestri yn gyflym ac yn hawdd a gellir eu diweddaru unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn. Gall myfyrwyr weld eu rhestri darllen o fewn eu modiwlau Blackboard.
Gall staff y Llyfrgell hefyd greu rhestri darllen ar eich rhan. Cysylltwch â Llyfrgellydd eich Cyfadran am wybodaeth.
Mae nifer o fanteision i greu eich rhestrau darllen ar-lein:
- mynediad di-dor at adnoddau - cysylltiadau i gofnodion Catalog Llyfrgell byw fel y gall myfyrwyr weld a oes eitem ar gael ai peidio, cysylltiadau i erthyglau e-gylchgronau testun llawn, e-lyfrau, cysylltiadau i wefannau a llawer mwy gyda'r holl adnoddau i'w gweld yn un lle.
- amrywiaeth o ddeunyddiau - gallwn gynghori ar yr ystod lawn o adnoddau a dulliau cyflwyno sydd ar gael, gan gynnwys manteisio ar e-gylchgronau a defnyddio penodau digidol o lyfrau neu erthyglau cyfnodolion wedi'u sganio gan gyhoeddwyr y DU.
- gwirio adnoddau - gallwn ymchwilio i argaeledd deunydd cyfredol, dod o hyd i ddeunydd ychwanegol, awgrymu dewisiadau eraill a sicrhau bod y cysylltiadau yn gyfredol ac yn ddilys.
- disgrifiad cyson - bydd pob cyfeiriad yn cael ei arddangos mewn fformat safonol a gallwch anodi eich rhestrau i gyfeirio myfyrwyr at dudalennau penodol neu wybodaeth bwysig.
- diweddaru effeithlon - ar ôl creu rhestr, bydd yn hawdd iawn ei diweddaru naill ai'n flynyddol neu ganol blwyddyn.
Mae gan CELT lawer o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard.
Mae'r Llyfrgell hefyd wedi creu rhestr chwarae Youtube i'ch helpu i greu rhestr.